APCE
Rydych chi yma: Hafan > Cynllunio > Cynllun Datblygu Lleol

Eich Dyfodol - Dweud Eich Dweud

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn paratoi cynlluniau a fydd yn llunio dyfodol Eryri. Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i roi cyfle i bobl a sefydliadau ddylanwadu ar bolisïau’r cynlluniau ynghyd â'r camau gweithredu.

Yn y rhan hon o wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r cynnydd a wnaed wrth baratoi’r cynlluniau. Bydd yn esbonio ble yn union yr ydym wedi cyrraedd yn gysylltiedig â’r broses honno. Bydd yna hefyd gyfle ar y tudalennau hyn i bobl gael lleisio eu barn a’r hyn sydd orau ganddynt yn gysylltiedig ag ystod eang o faterion.


Pa gynlluniau sy’n cael eu paratoi?

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn dechrau’r gwaith o baratoi dau fath gwahanol o gynllun ar gyfer Eryri. Gyda’i gilydd, bydd y ddau gynllun yn cael effaith sylweddol ar amgylchedd y Parc ac ar les cymdeithasol ac economaidd y cymunedau lleol. Y ddau fath o gynllun yw Cynllun Rheolaeth y Parc Cenedlaethol a’r Cynllun Datblygu Lleol. Gyda'i gilydd bydd Cynllun Rheolaeth y Parc Cenedlaethol a Chynllun Datblygu Lleol Eryri yn cynnig cyfle cryf i lunio dyfodol y Parc Cenedlaethol am sawl blwyddyn.

Mae Cynllun Rheolaeth y Parc Cenedlaethol yn gynllun eang ar gyfer rheoli pob agwedd o Barc Cenedlaethol Eryri. Mae hynny’n cynnwys yr holl dirluniau gwahanol (naturiol ac wedi eu gwneud gan ddyn), gweithgareddau dynol, ac amgylchedd planhigion ac anifeiliaid sydd yn y Parc, yn ogystal â diwylliant Cymreig cryf yr ardal. Bydd y Cynllun Rheolaeth yn nodi’r egwyddorion arweiniol, y weledigaeth, y nodau yn y tymor hir a’r polisïau ar gyfer rheoli’r holl wahanol agweddau hyn ar y Parc Cenedlaethol. Bydd hefyd yn cynnwys cyfres o gynlluniau gweithredu integredig i helpu i gyflawni nodau o un flwyddyn i’r llall.

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn fwy penodol na’r Cynllun Rheolaeth. Mae’n ymwneud yn bennaf â defnyddio tir a’i ddatblygu, ond bydd hefyd yn cael effaith ar yr economi leol. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn nodi ystod o bolisïau er mwyn sicrhau bod y datblygiad newydd o ansawdd da, a’i fod yn digwydd mewn mannau priodol. Caiff ei ddefnyddio i helpu i benderfynu pa geisiadau i ddatblygu a ddylid eu cymeradwyo a pha rai y dylid eu gwrthod. Unwaith y caiff ei fabwysiadu, bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn cymryd lle cynllun datblygu presennol y Parc Cenedlaethol, sef Cynllun Lleol Eryri.

Cliciwch yma i weld arweiniad syml sydd a wnelo â’r amrywiol gamau y byddir yn eu cymryd wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol.


Beth yw’r amserlen ar gyfer paratoi’r cynlluniau?

Rydym yn dymuno sicrhau bod y broses o baratoi’r ddau gynllun ar y cyd yn mynd rhagddi yn effeithlon ac yn integredig. Er mwyn cyflawni hynny, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi paratoi Cytundeb Cyflawni sy’n nodi’r camau y bydd angen eu cymryd i baratoi’r cynlluniau, a phryd y bydd y rheiny’n digwydd.

Mae'r Cytundeb Cyflawni hefyd yn cynnwys Cynllun Cynnwys Cymunedau (cliciwch ar y cyswllt ‘Cynnwys Cymunedau’ ar yr ochr chwith i’r dudalen hon am fwy o wybodaeth). Paratowyd diagram llinell amser sy’n cynnwys manylion yr amrywiol gamau yn y broses o baratoi Cynllun Rheolaeth y Parc Cenedlaethol a Chynllun Datblygu Lleol Eryri.


A fydd y cynlluniau’n gynaliadwy?

Mae Cynllun Rheolaeth y Parc Cenedlaethol a’r Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu paratoi mewn ffordd sy’n hyrwyddo datblygiadau cynaliadwy. Mae hynny’n golygu integreiddio datblygiadau economaidd, lles cymdeithasol, diogelu’r amgylchedd a gwarchod adnoddau. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, caiff effeithiau posibl y ddau gynllun eu hasesu gan ddefnyddio prosesau o’r enw ‘Gwerthusiad Cynaliadwyedd’ (GC) ac ‘Asesiad Amgylcheddol Strategol’ (AAS). Mae effaith y cynlluniau ar fywyd gwyllt a chynefinoedd o bwysigrwydd Ewropeaidd yn cael eu hystyried drwy broses sydd yn cael ei alw’n Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.


Sut fydd pobl yn gallu dylanwadu ar y cynlluniau?

Mae’r Awdurdod wedi paratoi Cynllun Cynnwys Cymunedau. Mae'n nodi sut a phryd y gall aelodau’r cyhoedd, sefydliadau a busnesau gyfrannu at y broses o lunio ffurf a chynnwys y ddau gynllun newydd.


Ydych chi eisiau cymryd rhan?

Os hoffech chi gymryd rhan yn y broses o baratoi’r ddau gynllun, cliciwch ar y cyswllt ‘Eich Manylion’ ar yr ochr chwith i’r dudalen hon a llenwch y ffurflen. Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt ar gronfa ddata ddiogel, ac ni fyddwn yn rhannu’r manylion hynny ag unrhyw sefydliad arall. Yn ystod y camau o’r broses o baratoi’r cynlluniau lle’r ydym wedi nodi y byddwn yn gofyn am farn pobl ynghyd â’r hyn sydd orau ganddynt, byddwn yn cysylltu â’r bobl ar y gronfa ddata i’w hysbysu ymlaen llaw ynglyn â’r cyfle i’r cyhoedd gyfranogi.

Dyfodol Eryri
Eich dyfodol Dweud eich dweud
Bala
Capel Curig
Hafan Allrwyd Staff Cysylltu
Parciau Cenedlaethol y DU
Brig y dudalen hon

APCE

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk