APCE
Rydych chi yma: Hafan > Awdurdod y Parc > Cynllun Rheolaeth

Cynllun Rheolaeth

Y Cynllun Rheolaeth yw prif ddogfen strategol Parc Cenedlaethol Eryri. Er bod y ddogfen yn cael ei lunio gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, mae’n ddogfen ar gyfer pawb sydd yn byw, gweithio, mwynhau ac ymweld ag Eryri.

Pwrpas y Cynllun Rheolaeth yw tynnu at ei gilydd pawb sy’n dylanwadu ar y Parc Cenedlaethol. Mae’n ffocysu a chydlynu ymdrechion i sicrhau, trwy ddatblygiadau cynaliadwy, fod y Parc Cenedlaethol yn parhau i haeddu ei statws a ddiogelir.

Bu'r Awdurdod allan ar ymgynghoriad ar y Cynllun Rheolaeth Drafft rhwng Mawrth 23 a Mai 11 2009.

Cliciwch isod i ddarllen y Cynllun Rheolaeth. Gellir ei darllen ar-lein neu ei lawrlwytho.

Os hoffech gopi papur neu CD cysylltwch â’r Awdurdod.

Yn atodol i’r brif ddogfen, mae dau atodiad pellach;

Mae'r Awdurdod wedi cynhyrchu crynodeb sydd yn cyflwyno'r Cynllun Rheolaeth Parc Cenedlaethol.


Adroddiad ar Gyflwr y Parc

Fel rhan o’r gwaith o lunio Cynllun Rheolaeth, mae’r Awdurdod yn casglu data o sawl ffynhonnell ar faterion perthnasol, megis; hamdden a thwristiaeth, cadwraeth, cludiant, tai, cyflogaeth a chyflwr yr amgylchedd, er mwyn sicrhau fod gweithredoedd ac amcanion y Cynllun Rheolaeth yn berthnasol. Yn ei gyfanrwydd mae’r data hwn yn helaeth iawn. Er mwyn hwyluso’r broses o fonitro newid a datblygiad, mae’r Awdurdod yn paratoi Adroddiad ar Gyflwr y Parc Cenedlaethol sy’n cynnwys y prif ddangosyddion. Mae’n cynnig ciplun o’r Parc Cenedlaethol. Caiff yr Adroddiad ei adolygu yn llawn pob 5 mlynedd.


Gwerthusiad Amgylcheddol ac Asesiad Amgylcheddol Strategol

I gyd fynd gyda’r Cynllun Rheolaeth mae Gwerthusiad Amgylcheddol ac Asesiad Amgylcheddol Strategol wedi’i baratoi - yn unol â’r deddfau Ewropeaidd perthnasol. I ddarllen copi o Grynodeb An-nhechnegol yr Adroddiad Cynaladwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol cyfunol cliciwch yma. Mae’r adroddiad llawn, ynghyd a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd i’w lawrlwytho o wefan Hyder Consulting.


Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd ymatebion ir ymgynghoriad yn cael eu hystyried gan Fforwm Eryri ac Aelodau’r Awdurdod. Wedi hyn, bydd fersiwn diwygiedig o’r Cynllun Rheolaeth yn cael ei baratoi ar gyfer ystyriaeth gan Aelodau’r Awdurdod. Bydd unrhyw newidiadau pellach yn cael eu hymgorffori cyn i’r ddogfen gael ei mabwysiadu yn derfynol gan yr Awdurdod.

Pob dwy flynedd bydd y Cynllun Gweithredu yn cael ei adolygu i fonitro llwyddiant. Yna, pob pum mlynedd bydd y Cynllun Rheolaeth yn cael adolygu, er mwyn sicrhau fod y cynnwys yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ymateb i newid.


Gwybodaeth bellach

Am wybodaeth bellach neu gynhorthwy, e-bostiwch dyfodoleryryi@eryri-npa.gov.uk neu ffoniwch 01766 770274.

Bala
Capel Curig
Hafan Allrwyd Staff Cysylltu
Parciau Cenedlaethol y DU
Brig y dudalen hon

APCE

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk