
Beth sy’n gwneud eich bro chi yn arbennig?
Beth sy’n eich gwneud chi yn falch o’ch bro?
Yn ystod Hydref 2010, bydd deuddeg o ysgolion cynradd Parc Cenedlaethol Eryri a’r cyffiniau yn cymryd rhan mewn prosiect newydd sbon o’r enw ‘Bro Ni’.
Bydd pob ysgol yn sgwrsio gyda’r warden lleol ac yn dewis nodwedd yn eu tirlun, y maen nhw’n teimlo sy’n cynrychioli hunaniaeth eu hardal nhw. Gall y nodwedd yma fod yn berson, yn adeilad, yn graig, yn gwm, yn fynydd, yn adfail, yn olion hanesyddol neu archaeolegol, yn llwybr, yn gae, neu hyd yn oed, yn gerdd neu yn gân.
Ar ôl dewis eu nodwedd, bydd yr ysgolion yn gweithio gydag artist, bardd, awdur neu gerddor, i greu darn o waith creadigol yn seiliedig ar y nodwedd maen nhw’n ei ddewis. Erbyn Nadolig 2010, bydd gennym fap o nodweddion tirlun Eryri, a chasgliad o waith creadigol i gyd fynd ag o.
Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon wrth i’r prosiect ddatblygu – galwch yn ôl i weld ei gynnydd!


