
Ardal o drefi marchnad bychain yw Eryri yn bennaf. Mae poblogaeth y Parc o 25,482 (Cyfrifiad 2001) wedi'i chanoli'n bennaf ar hyd yr arfordir rhwng Abermaw a Harlech. Dolgellau a'r Bala yw'r trefi mwyaf yn y Parc. (gweler map ffin y Parc Cenedlaethol).
Trigolion Eryri sydd piau'r ardal i bob pwrpas gyda pheth wmbreth ohonynt yn ceisio ennill bywoliaeth o'r tir. Mae hyd at ddwy ran o dair o dir Eryri mewn dwylo preifat tra bod y gweddill wedi'i rannu rhwng Menter Coedwigaeth, Dŵr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, tir comin y Goron a chyrff eraill. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn berchen ar lai na 1% o'r tir.
Ar y map isod o Barc Cenedlaethol Eryri, nodir enwau 68 o drefi a phentrefi. Mae’r rhestr hon wedi’i llunio at ddibenion cynllunio ac nid yw’n cynnwys pob tref a phentref yn y Parc Cenedlaethol.

