APCE
Rydych chi yma: Hafan > Addysg > Gweithgareddau Lefel AS/A

Dirgelwch y Pentref!

Mae Huw Jones a Luned Hughes newydd briodi. Mae’r ddau yn byw ym mhentref bach Llanuwchllyn ger glannau Llyn Tegid a throed yr Aran. Maent wedi adnabod ei gilydd ers dyddiau’r ysgol gynradd. Maent yn byw gyda rhieni Luned gan nad ydynt yn gallu cael ty eu hunain. Mae’r pentref yn lle delfrydol i fagu plant, mae eu teuluoedd yn byw yno, ac mae llawer o’u cyfoedion yn byw yno. Mae Llanuwchllyn yn bentref Cymreig gyda chymuned glos. Mae yma ddau gôr - Côr Merched a Chôr Godre’r Aran a chynhelir Gwyl Ddrama yma yn flynyddol. Mae yno hefyd dafarn ble cynhelir nosweithiau hwyliog gyda cherddorion a grwpiau Cymraeg.


A fydd hi’n bosibl i Huw a Luned aros yn y pentref?


Cam 1: Rhowch 3 awgrym ar bapur pam

a) y byddai hyn yn bosibl
b) na fyddai hyn yn bosibl.


Cam 2: Darllenwch y wybodaeth. Cysylltwch ddatganiadau gyda'i gilydd mewn grwpiau e.e.

3 ) Mae pris petrol yn yr ardal yn uwch na phris petrol mewn dinasoedd.
gyda
14) Rhaid i Luned deithio i’r gwaith mewn car gan ei bod yn gweithio shifftiau – nid oes bws iddi am 6.00 y bore.

Dylech allu cysylltu pob datganiad gydag o leiaf un arall (defnyddiwch rif yn lle copïo’r frawddeg i arbed amser). Byddwch wedyn wedi mapio’r holl ddatganiadau fel eu bod wedi eu cysylltu.


Cam 3: Ar ôl cysylltu’r holl ffeithiau, ewch yn ôl i’r awgrymiadau oedd gennych yn wreiddiol - oeddech chi yn gywir ? Ysgrifennwch yr ateb i’r "dirgelwch" yn eich ffeil.

Nid oes un ateb cywir i’r "dirgelwch". Mae fel jig-so gyda llawer o ddarnau i ffitio yn eu lle a chyd-gysylltu. Gallech ddweud yn syml na all Huw a Luned fforddio prynu ty, ond mae yna fwy i’r dirgelwch na hynny. Rhaid i chi edrych ar y darlun ehangach, gan ganolbwyntio ar fwy nag un ffaith.


1) Ychydig o bobl sydd byth yn symud o Lanuwchllyn. Mae yn lle distaw a braf i fyw, gyda Swyddfa'r Post, ysgol gynradd, capel ac eglwys, tafarn a neuadd gymunedol.

2) Mae’r tir o amgylch y pentref yn dir amaethyddol da. Mae hi’n anodd cael caniatâd cynllunio arno. Mae hefyd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.

3) Mae pris petrol yn yr ardal yn uwch na phris petrol mewn dinasoedd.

4) Mae Luned yn gweithio mewn canolfan awyr agored ger y Bala. Mae hi’n ennill £180 yr wythnos.

5) Mae 84% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae’r teimlad o gymuned yn gryf iawn yma.

6) Mae’r gwasanaeth bws yn rhedeg yn aml o’r Bala i Ddolgellau ac yn cysylltu â rhwydwaith eang wedyn.

7) Ychydig o dai cyngor neu dai ar rent sydd yna yn Llanuwchllyn. Teuluoedd gyda phlant sydd yn cael blaenoriaeth gan y Cyngor.

8) Yn y 10 mlynedd diwethaf, mae prisiau tai Llanuwchllyn wedi cynyddu. Mae’n anodd ffeindio unrhyw le dan £100,000.

9) Mae rhieni Luned a’i rhieni hwythau yn byw yn y pentref.

10) Poblogaeth ardal Llanuwchllyn yw 834.

11) Peiriannydd ydi Huw, mae’n gweithio mewn ffatri yn y Bala am £500 yr wythnos.

12) Mae pobl y dinasoedd eisiau byw mewn llefydd fel hyn gan fod ansawdd bywyd da yma.

13) Bu cais cynllunio diweddar i ddymchwel y capel ansad ac adeiladu tai ar y safle.

14) Rhaid i Luned deithio i’r gwaith mewn car gan ei bod yn gweithio shifftiau – nid oes bws iddi am 6.00 y bore.

15) Mae rhai o’r tai yma wedi eu rhestru, nid oes modd eu newid na’u hymestyn.

16) Dim ond 10 ty newydd adeiladwyd yn y pentref yn y 10 mlynedd diwethaf.
17) Tydi Huw a Luned ddim eisiau byw gyda'u rhieni, er yr hoffent fyw yn agos. Maent eisiau bod yn annibynnol.

18) Mae gan fwy o bobl geir yn y wlad na sydd gan bobl yn y ddinas. Mae mwyafrif teuluoedd Llanuwchllyn yn meddu ar gar. Mae 10% heb gar a 46% gyda dau neu fwy o geir/faniau.

19) 20% o dai Llanuwchllyn sydd ar rent, tra bod 80% dan berchnogaeth breifat.

20) Mae 180 o bobl yr ardal mewn swyddi proffesiynol/lled reolaethol,144 yn gweithio mewn swyddfeydd, gwerthiant, neu weithdai a 137 yn gyflogwyr bach.

21) Mae rhai o’r tai sydd ar rent yn fach iawn, gyda dim ond un ystafell wely.

22) Mae 6.6% o dai'r ardal yn dai haf.

Plas Tan y Bwlch
Cwm Idwal
Hafan Allrwyd Staff Cysylltu
Parciau Cenedlaethol y DU
Brig y dudalen hon

APCE

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk