
Mae'r deunydd addysg yma wedi'i anelu at ddisgyblion ysgol o bob oed, ynghyd â'u hathrawon.
Mae'r deunydd wedi ei grwpio yn ôl oed ac yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol, ffeithiau a gweithgareddau. Mae mwy o wybodaeth am y gweithgareddau a thaflenni gwaith dosbarth yn yr Hafan Athrawon.
Am fwy o fanylion am Wasanaeth Addysg Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri dilynwch y cyswllt ar y chwith.
Rydym newydd gyhoeddi llyfr lliwgar ar gyfer disgyblion cynradd. Bwriad ‘Darganfod Eryri' yw cyflwyno Eryri i bobol ifanc drwy themau penodol sy’n hawdd eu darllen.

Wedi ei ysgrifennu’n i gyd-fynd gyda gofynion y Cwricwlwm Cynradd newydd, mae ‘Darganfod Eryri’ yn eich arwain trwy Eryri gan ddefnyddio mapiau. Dyma ragflas o'r tudalennau.

Mae copiau yn costio £5.00 yr un.
I archebu copi(au) o 'Darganfod Eryri' ebostiwch addysg@eryri-npa.gov.uk gyda'ch anghenion, neu anfonwch y daflen yma atom. Mwynhewch.


