
A oes angen i mi gael caniatâd cynllunio?
I ddechrau, bydd rhaid i chi ddarganfod p’un a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith sydd gennych dan sylw ai peidio.
Mae llyfryn Llywodraeth Cynulliad Cymru ‘Cynllunio: Arweiniad i Ddeiliaid Tai’ yn esbonio pryd y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio. Mae hefyd yn bosibl i chi fynd ar wefan y llywodraeth planningportal.gov.uk
Neu, fe allwch ffonio, galw draw neu ysgrifennu atom ac fe fyddwn yn falch o’ch rhoi ar ben ffordd. Sicrhewch eich bod yn cyflwyno disgrifiad llawn o’r math o waith sydd gennych dan sylw, gan gynnwys mesuriadau a lluniadau os oes posib.
Pwy fydd yn paratoi’r cynlluniau?
Bydd yn dibynnu ar fath a graddfa’r gwaith dan sylw, a bydd rhaid i chi benderfynu a yw’n bosibl i chi baratoi’r cynlluniau eich hunain neu p’un a fydd rhaid i chi gyflogi pensaer ai peidio. Mae canllawiau dylunio ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiadau ar gael gennym i’ch cynorthwyo.
Ni allem argymell pensaer, ond fe all Cymdeithas Frenhinol y Penseiri ddarparu rhestr o benseiri cofrestredig yn eich ardal. Mae’r cyfeiriadur ffôn yn rhestru penseiri a gwasanaethau pensaernïol hefyd.
Pa gymorth sydd ar gael?
Seilir y penderfyniadau cynllunio ar bolisïau Cynllun Lleol Eryri a pholisïau cenedlaethol. Cynllun Lleol Eryri yw’r cynllun datblygu ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri gyfan*.
Gallem esbonio’r polisïau perthnasol y bydd rhaid i chi eu hystyried a’ch cynghori p’un a yw eich datblygiad yn debygol o gyd-fynd â hwy ai peidio.
The Snowdonia National Park Authority has 18 members, 9 Local Councillors appointed by Gwynedd Council, 3 Local Councillors appointed by Conwy County Borough Council, and 6 members appointed by the Welsh Assembly Government.
Mae croeso i chi anfon copïau o gynlluniau neu luniadau am sylwadau gwybodus cyn i chi gyflwyno eich cais cynllunio. Gall trafodaethau ynghylch maint, dimensiynau, gosodiad, deunyddiau ac effaith y datblygiad dynnu sylw at faterion efallai nad oeddech wedi’u hystyried.
Er nad ydym yn peidio â chefnogi syniadau arloesol o ran dyluniad, bydd rhaid i unrhyw ddatblygiad newydd, p’un a yw’n newid defnydd i’ch cartref presennol neu’n adeilad newydd sbon, gydweddu â’r ardal o’ch cwmpas.
Gallem hefyd eich cynghori ynglyn â phroblemau a all godi gyda’r cynlluniau, er enghraifft, os yw mynedfa newydd arfaethedig yn debygol o fod yn beryglus.
Rydym hefyd yn argymell eich bod yn trafod eich cynlluniau gyda’ch cymdogion cyn cyflwyno’r cais cynllunio. Maent yn debygol o fod yn bryderus ynglyn ag unrhyw ddatblygiadau a all effeithio arnynt. Er enghraifft, gall eich gwaith adeiladu rwystro eu golau hwy.
Trwy ddysgu am y problemau hyn cyn i chi gyflwyno cais, fe allech ailystyried ac addasu eich cynigion. Hyd yn oed petaech yn penderfynu peidio â newid eich cynlluniau, fel rheol mae’n well i chi sôn wrth eich cymdogion am eich cynlluniau cyn ymgeisio am ganiatâd cynllunio. Oherwydd pan gyflwynir cais cynllunio, mi fyddem yn rhoi gwybod i’ch cymdogion a gofyn am eu barn.
Os gwnaf hyn oll a fyddaf yn sicr o gael caniatâd cynllunio?
Ni allem byth warantu y cewch ganiatâd cynllunio, ond trwy drafod gyda ni cyn i chi gyflwyno eich cais, mae’n bosibl i chi osgoi gwneud gwaith ofer.
* Mae’r Cynllun Lleol Eryri ar gael i’w archwilio yn ein prif swyddfa ac ar ein gwefan.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaeth Gynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

