SNPA Print Header
Rydych chi yma: Gwarchod > Garddio Bywyd Gwyllt >Cynllun Gwobrwyo

Cynllun Gwobrwyo

Natur yn dod â’ch gardd yn fyw!

Mae’r pryder am ein hamgylchedd lleol a byd-eang yn bryder gwirioneddol. Ond yn hytrach na phoeni’n ormodol am y peth, beth am wneud rhywbeth cadarnhaol trwy droi eich gardd yn ardd bywyd gwyllt? Fe allech chi ennill gwobr efydd, arian neu aur, yn ogystal â gwobr ariannol.

Felly, cofiwch gystadlu’n ddi-oed:

“Cystadleuaeth Gardd Bywyd Gwyllt Gogledd Orllewin Cymru” - Gallwn roi cyngor ichi ar sut i droi eich gerddi yn erddi bywyd gwyllt – pa un a ydyn nhw’n fawr neu’n fach – a chewch fynediad am ddim i Bortmeirion fis Gorffennaf lle cynhelir y seremoni wobrwyo. Bydd pob cystadleuydd yn cael gwobr ar gyfer yr ardd.

Er mwyn annog garddwyr yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn i ddenu mwy o fywyd gwyllt i’w gerddi, cynigir gwobr o £100 ym mhob categori yn y gystadleuaeth unigryw yma.

Y cwbl sydd raid ichi ei wneud er mwyn cystadlu cyn 3 Mehefin yw cysylltu ag Anna Williams, 01248 360981, 07772280970 neu annawilliams@wildlifetrustswales.org.

Dechreuodd yr ymgyrch i ddenu mwy o adar, gloÿnnod byw, draenogod, a chreaduriaid eraill i erddi yng Ngogledd Cymru ym mis Awst 2002, gyda’r bwriad o roi gwybodaeth i’r cyhoedd am ffyrdd a all eu helpu i warchod bywyd gwyllt a’i ddenu i’w gerddi. Fel rhan o’r ymgyrch, mae Partneriaeth Garddio Bywyd Gwyllt Eryri yn cynnal cystadleuaeth â 4 categori ar gyfer gerddi preifat (bach a mawr), gerddi cymunedol, gerddi ysgolion a gerddi busnesau. Dyddiad cau’r gystadleuaeth eleni yw 3 Mehefin.

Yn ôl Anna Williams, y swyddog prosiect: “Mae’r gystadleuaeth gardd bywyd gwyllt yn agored i bawb, pa un a oes gennych ardd fawr neu fach. Ceir categori ar wahân ar gyfer gerddi preifat bach. Mae nifer fawr o bobl yn mwynhau helpu ein bywyd gwyllt brodorol, a rhai dulliau syml o wneud hynny yw trwy dyfu planhigion llawn neithdar ar gyfer pryfed a llwyni llawn aeron ar gyfer adar, plannu coed a gwrychoedd, creu pyllau, gwneud eich compost eich hun, a defnyddio llai o blaladdwyr yn eich gardd. Gweithiwch law yn llaw â natur, gwyliwch, ymlaciwch ac ewch ati i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth er mwyn dysgu mwy a chyfarfod â phobl o’r un meddylfryd â chi yn y seremoni wobrwyo ym Mhortmeirion ar 8 Gorffennaf.”

Y beirniaid fydd Anna Williams ac Anna Budesha (Partneriaeth Garddio Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru), Margaret Thomas (Cymdeithas Eryri), Karen Rawlins (Cyngor Cefn Gwlad Cymru) ac Anne Butler (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy). Am ragor o fanylion, ffoniwch Anna Williams ar 01248-360981 / 07772280970, neu e-bostiwch annawilliams@wildlifetrustswales.org.

Lawrlwytho ffurflen gofrestru (pdf)

Logo Cynllun Garddio Bywyd Gwyllt Eryri
Cynllun Garddio Bywyd Gwyllt Eryri
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk