
Yn Eryri mae naw cadwyn o fynyddoedd yn ymestyn dros tua 52% o'r Parc ac yn cynnwys sawl copa sydd dros 3,000 troedfedd (915 metr).
Menter ar y cyd oedd y Bartneriaeth Llwybrau Ucheldir rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, i drwsio llwybrau sydd wedi erydu ar fynyddoedd Eryri dros gyfnod o saith mlynedd. Roedd gan y Bartneriaeth 6 tîm llwybrau yn gweithio yn Ardal Yr Wyddfa, Ogwen a Chader Idris. Daeth y Bartneriaeth i ben fis Mehefin 2008.
Er i'r Bartneriaeth ddod i ben, mae'r gwaith ar drwsio'r llwybrau'n parhau ond ar raddfa lai. Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 2 dîm yn gweithio'n bennaf ar lwybrau'r Wyddfa. Mae gan Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd dîm sy'n gweithio yn Ardal Ogwen.


