
Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol rôl allweddol er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu mwynhau a llawn werthfawrogi nodweddion arbennig Eryri.
Mynediad ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Mae Cynghorau Gwynedd a Chonwy, fel Awdurdodau Priffyrdd, yn gyfreithiol gyfrifol am hawliau tramwy cyhoeddus ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae'r Cynghorau yn cynnal y Map Swyddogol, prosesu Gorchmynion ac Addasiadau i'r Map, paratoi Cynlluniau Gwelliannau Hawliau Tramwy ac yn delio gyda rhwystrau ar hawliau tramwy.
Ar y cyd gyda'r Awdurdodau Priffyrdd, er hynny, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn buddsoddi arian bob blwyddyn er mwyn gwella llwybrau defnyddiol sy'n cysylltu pentrefi, atyniadau a mannau o harddwch. O dan gynllun Rhwydwaith Hamdden yr Awdurdod, mae'r llwybrau yn cael eu gwella ac yn cael arwyddion mwy eglur.
Cliciwch yma i fynd i'r adran Cerdded.
