
Mae planhigion brodorol yn ffurfio cymunedau lle mae’r amrywiol blanhigion (ynghyd â’r anifeiliaid a’r ffyngau cysylltiedig) wedi bod gyda’i gilydd am ddigon o amser i sicrhau cydbwysedd yn y ffordd y maent yn cystadlu â’i gilydd. Petai planhigyn yn cael ei gyflwyno o ran arall o’r byd, fe all ddrysu’r cydbwysedd hwnnw. Gall fod nifer o fanteision i’r planhigion dieithr hyn. Efallai eu bod wedi cyrraedd heb y creaduriaid na’r afiechydon sy’n eu cadw o dan reolaeth yn eu hardaloedd brodorol. Efallai eu bod yn meddu ar rai nodweddion metaboledd neu wasgariad arbennig nad ydynt yn perthyn i blanhigion lleol. Os felly, mae ganddynt fantais gystadleuol sy’n golygu eu bod yn gallu ymledu dros ardaloedd sylweddol yn gyflym.
Pam fod planhigion ymledol yn broblem?
Mae planhigion ymledol anfrodorol yn broblem aruthrol dros y byd i gyd. Maent yn un o’r prif resymau dros ddiflaniad a diraddiad cynefinoedd. Yn Hawäi, er enghraifft, mae planhigion newydd wedi cymryd lle llawer iawn o’r llystyfiant brodorol. Nid yn unig y mae’r planhigion brodorol yn diflannu, ond hefyd yr anifeiliaid sydd wedi esblygu i fyw gyda hwy.
Mae’r Ynysoedd Prydeinig wedi dianc yn gymharol hawdd, er i dros fil o blanhigion anfrodorol ymsefydlu yn y gwyllt, dim ond nifer fach sydd wedi datblygu’n rhai ymledol erbyn hyn. Fe ddaw nifer o’r rhywogaethau dieithr o wledydd poethach y byd, felly maent yn tyfu’n llai grymus yn hinsawdd oerach Prydain. Yn ogystal â hynny, mae Prydain yn wlad o boblogaeth niferus. Mae’r rhan fwyaf o’r tir yn cael ei ffermio’n ddwys. Ychydig iawn o rywogaethau sy’n gallu ymsefydlu a datblygu’n rhai ymledol mewn tirwedd o’r math hwn. Ynghyd â’r codiad disgwyliedig mewn tymheredd yn sgîl Newid yn yr Hinsawdd, fe all rhywogaethau ymledol ddod yn fwy o broblem.
Rôl y Parc Cenedlaethol
Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddyletswydd i warchod bywyd gwyllt a bu’n cymryd camau yn erbyn rhywogaethau ymledol ers dros ddeng mlynedd ar hugain erbyn hyn. Buom yn trefnu cyfarfodydd a chynadleddau, yn rhoi grantiau ac yn rheoli yn ein coedlannau ein hunain. Rydym wedi canolbwyntio’n bennaf ar y Rhododendron ar hyd yr amser, oherwydd ystyrir mai’r planhigyn hwn yw’r bygythiad mwyaf.
Dechreuodd cyfnod diweddaraf gwaith yr Awdurdod yn 2005 gyda lansiad y Prosiect Rhywogaethau Ymledol. Mae’r prosiect, a ariennir gydag arian Amcan 1 Ewrop, yn meddu ar ddwy brif nod. Y cyntaf yw llunio strategaeth ar gyfer y Parc cyfan er mwyn rheoli rhododendron yn y dyfodol. Yr ail yw ymgymryd â rhaglenni dadwreiddio wedi’u targedu’n lleol.

