Her Newid yn yr Hinsawdd
Yn 1996, cytunodd yr Awdurdod y "dylai'r egwyddor o gynaliadwyedd fod yn ganolog i bob polisi, cynllun a rhaglen yr Awdurdod yn y dyfodol".
Yn dilyn yr egwyddor hwn mae'r Awdurdod wedi cymryd cam strategol ymlaen fel yr Awdurdod gyfan i leihau carbon ac ymateb i newid yn yr hinsawdd. Mae'r pwyslais ar brosiectau ymarferol y gellir eu cyflawni a hyd at 2008 nid oedd wedi costio llawer yn ariannol ond llwyddwyd i leihau allyriadau carbon yr Awdurdod o 18% o'r flwyddyn 2005. Bellach rydym fel Awdurdod wedi symud ymlaen gyda phrosiectau mwy a fydd yn lleihau ein ôl-troed carbon ymhellach fyth.
Er mwyn helpu eraill i fod yn fwy cynaliadwy rydym am rannu gyda chi y polisïau, cynlluniau a'r rhaglenni hynny sydd yn ein cynorthwyo i ddod yn Barc Cenedlaethol fwy cynaliadwy:
Rhaglenni a Chysylltiadau Allanol:
> Rydym wedi creu
Top Tips i annog pobl i fyw eu bywyd yn fwy cynaliadwy.
> Rydym yn gweithredu'r cynllun grant
CAE (Cronfa Arbrofol Eryri) ar ddatblygu cynaliadwy.
> Rydym yn cyfrannu tuag at
Goriad Gwyrdd Eryri sy'n canolbwyntio ar wella trafnidiaeth gynaliadwy i drigolion lleol ac i ymwelwyr o fewn Eryri.
> Rydym yn gweithio gyda nifer fawr o dirfeddianwyr ar gynlluniau dal carbon.
> Rydym yn aelod o
Dîm Lleihau Carbon Bwrdd Gwasanaethau Lleol Gwynedd.
> Bu i ni gefnogi
Wythnos Gynaliadwyedd Cymru a
Awr Ddaear WWF.
Rhaglenni a Gweithgareddau Mewnol:
> Rydym wedi ymuno â'r
Cynllun 10:10 cenedlaethol, sef cynllun uchelgeisiol sy’n edrych i leihau 10% o allyriadau carbon yn 2010.
> Yn 2009 roeddem yn falch iawn o gael derbyn
Gwobr Clod Uchel yn
Ngwobrwyon Rhagoriaeth Cymru a drefnwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am ein gwaith yn ymateb i her newid yn yr hinsawdd.
> Rydym wedi mabwysiadu Safon Amgylcheddol
Y Ddraig Werdd ac wedi cyrraedd Lefel 4 yn 2007.
> Gwobrwywyd Plas Tan y Bwlch, ein Canolfan Astudio Amgylcheddol, â'r
statws Eco-Ganolfan yn 2006.
> Mae gwaith paratoadol yn mynd rhagddo i sefydlu
cynllun hydro-electrig ym Mhlas Tan y Bwlch.
> Mae gwelliannau wedi'u gwneud i'r
system wresogi ym Mhlas Tan y Bwlch.
> Gosodwyd
Paneli Haul yn Nhŷ Cychod Llyn Tegid.
> Mae
lwfans teithio'r staff a'r aelodau yn seiliedig ar allyriadau carbon yn hytrach na maint yr injan.
> Mae'r staff a'r Aelodau yn derbyn
hyfforddiant ar Ymwybyddiaeth Amgylcheddol ac rydym wedi cynhyrchu
Llyfryn Ymwybyddiaeth Amgylcheddol sy'n dangos i bawb sut y gallwn leihau carbon yn y cartref ac yn y gweithle.
> Rydym wedi sefydlu
Tîm Amgylcheddol traws adrannol.
Polisïau a Chynlluniau:
> Cynllun Rheolaeth y Parc Cenedlaethol> Cynllun Datblygu Lleol >Arweiniad ar Ddylunio Cynaliadwy > Adroddiad ar Gyflwr y Parc > Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol> Polisi AmgylcheddolTrwy gynnwys Lleihau Carbon a Newid yn yr Hinsawdd fel themâu yn ein polisïau, ein cynlluniau a'n prosiectau, gallwn, fel Awdurdod, sicrhau canlyniadau cadarnhaol a datblygu i fod yn Barc Cenedlaethol fwy cynaliadwy.
Cliciwch ar y ddolen isod i ddarllen arweiniad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar sut i fod yn genedl fwy cynaliadwy:
Am ragor o wybodaeth ar ddatblygu cynaliadwy ewch i wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru: www.cymru.gov.uk/datblygucynaliadwy