
Mae'r Awdurdod yn cydnabod pwysigrwydd amaethyddiaeth yn Eryri trwy gael staff ymroddedig i weithio ochr yn ochr gyda ffermwyr er mwyn cyflawni pwrpasau'r Parc Cenedlaethol. Yn ddiweddar, mae'r Adran Amaethyddiaeth wedi bod wrthi'n ddyfal yn sicrhau cyllid o Ewrop er mwyn galluogi ffermwyr i ymgymryd â nifer o brosiectau rheoli tir.
Yn ogystal â dosrannu grantiau ar gyfer rheoli tir mae'r adran hefyd yn darparu cyngor/cefnogaeth technegol a pholisi ac yn penderfynu ar geisiadau datblygu (cynllunio) ar gyfer amaethyddiaeth o fewn y Parc Cenedlaethol.
Ar hyn o bryd, mae'r cynlluniau canlynol yn cael eu rhedeg gan y Gwasanaeth Cadwraeth ac Amaeth:

