
Dynodwyd Eryri fel Parc Cenedlaethol yn dilyn Deddf Parc Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Dechreuodd astudiaeth i nodi ffiniau'r Parc Cenedlaethol ym 1950 ac argymhellodd tîm o Gomisiwn y Parciau Cenedlaethol gan gynnwys Clough Williams-Ellis y ffin sydd gennym heddiw. Y maen prawf ar gyfer cynnwys tir o fewn y Parc oedd harddwch golygfaol eithriadol, a arweiniodd at beidio â chynnwys yr ardaloedd cynhyrchu llechi a rhai datblygiadau trefol.
Daeth Parc Cenedlaethol Eryri i fodolaeth ar Hydref 18fed 1951. Hwn oedd y trydydd Parc Cenedlaethol i'w ddynodi ym Mhrydain a'r cyntaf yng Nghymru. Mae Eryri yn un o 15 Parc Cenedlaethol ym Mhrydain.
Ym 1996, yn dilyn Deddf yr Amgylchedd 1995 daeth Parc Cenedlaethol Eryri yn Awdurdod annibynnol.
Y prif bwrpasau yw:
Mae'r cysylltiadau ar yr ochr chwith yn rhan uchaf y dudalen yn helpu egluro sut rydym yn cyflawni'r pwrpasau hyn.