
Wrth feddwl am Eryri, meddyliwn am greigiau geirwon ei mynyddoedd a'r gwynt yn rhuo trostynt. Heblaw am harddwch a rhin yr ucheldir, mae gan Eryri hefyd gynefinoedd naturiol a lled-naturiol unigryw. Cynnyrch grymoedd natur a llaw dyn yw'r tirluniau mawreddog hyn a chânt eu cydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol trwy ddynodiadau fel Ardal Cadwraeth Arbennig a Safle Biosffer Byd.
Trwy fod wedi ei lleoli ar gyrion gorllewinol Ewrop, ysgubir Eryri gan dywydd tyner, gwlyb sy'n dygymod â miloedd lawer o anifeiliaid, planhigion a chynefinoedd. Mae amryw o'r rhain yn rhyngwladol bwysig ac i'w cael yn unman arall yn y byd. Dyma ein treftadaeth naturiol - ein Bioamrywiaeth.
